mawr. Ac ar derfyn y mynydd gwelai ddyffryn crwn, a gororau y dyffryn yn goediog a charegog, a gwastad y dyffryn oedd yn weirgloddiau.
Ac ym mynwes y coed gwelai dai duon
mawr, ac an—fanwl en gwaith. Disgynnodd,
ac arweiniodd ei farch tua'r coed. Ac ar
odreu'r coed gwelai ochr carreg
lem, ar ffordd yn mynd heibio
ochr y garreg,—a llew yn rhwym
wrth gadwyn, ac yn cysgu ar
ochr y garreg.
A thwll dwfn,
erchyll ei faint, a welai dan y llew, a'i lond
o esgyrn dynion ac anifeiliaid. Tynnodd
Peredur ei gleddyf, a tharawodd y llew nes
y syrthiodd i'r dibin wrth y gadwyn uwch
ben y pwll. Ac â'r ail ddyrnod tarawodd y
gadwyn nos ei thorri, a syrthiodd y llew i'r
pwll. Ac arwain ei farch ar hyd ochr y
garreg a wnaeth Peredur oni ddaeth i'r
dyffryn. Ac efe a welai ar ganol y dyffryn
gastell teg. A daeth at y castell. Ac ar y
weirglodd wrth y castell gwelai ŵr mawr
llwyd yn eistedd. Mwy oedd nag un gŵr
a welsai erioed. A dau was ienainc yn taflu
carnau eu cylleill o asgwrn morfil. Y naill
o honynt yn was gwinau a'r llall yn was
melyn. A dyfod rhagddo a wnaeth hyd y
lle yr oedd y gŵr llwyd, a chyfarch gwell
iddo a wnaeth Peredur. A'r gŵr llwyd a
ddywedodd,—
"Gwae fy mhorthor!"
Ac yna y deallodd Peredur mai y llew oedd y porthor. Ac yna yr aeth y gŵr gwallt. wyn, a'r gweision gydag ef, i'r castell, ac aeth Peredur gyda hwy. A lle