Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teg anrhydeddus a welai ef yno, a daethant i'r neuadd. A'r byrddau oedd wedi eu gosod, a bwyd a diod yn ddi-dlawd arnynt. Ac ar hynny gwelai wraig go hen a gwraig ieuanc yn dyfod o'r ystafell. A'r gwragedd mwyaf a welsai erioed oeddynt. Ac ymolchi a wnaethant, a myned i fwyta. A'r gŵr llwyd a eisteddodd wrth ben y bwrdd, a'r wraig go hen yn nesaf iddo. A rhoddwyd Peredur a'r forwyn i eistedd gyda'u gilydd, a gwasanaethai y ddau was arnynt, Ac edrych a wnaeth y forwyn ar Beredur, a thristau. A gofyn a wnaeth Peredur i'r forwyn paham yr oedd yn drist.

"Tydi, enaid, er pan y'th welais gyntaf a gerais yn fwyaf gŵr. A garw yw gennyf weled ar was cyn foneddigeidded a thi y diwedd a fydd arnat yfory. A welaist ti y tai duon aml ym mron y coed? Deiliaid i fy nhad i,—y gŵr gwalltwyn acw, sydd yn y rhai hynny yn byw, a chewri ydynt oll. Ac yfory hwy a ymgasglant yn dy erbyn, ac a'th laddant. A'r Dyffryn Crwn y gelwir y dyffryn hwn."

"Ie, forwyn deg, a beri di fod fy march i a'm harfau yn yr un llety a mi heno?"

"Peraf, yn wir, os gallaf, yn llawen."

Pan fu amserach ganddynt gymeryd hûn na chyfeddlach, aeth i gysgu. A'r forwyn a barodd fod march ac arfau Peredur yn yr un llety ag ef. A thrannoeth, clywai Peredur dwrf gwŷr meirch gylch y castell. A Pheredur a gyfododd, ac a wisgodd ei arfau am dano ac am ei farch, ac aeth i'r weirglodd. A daeth y wraig hen a'r forwyn at y gŵr llwyd.

"Arglwydd," ebe hwy, "cymer lŵ y