Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwas ieuanc na ddywedo ddim a welodd yma. A ni a fyddwn drosto y ceidw ei air."

"Na chymneraf, myn fy nghred," ebe y gŵr llwyd.

Ac ymladd a wnaeth Peredur â'r llu. Ac erbyn y gwyll fe ddarfu iddo ladd un rhan o dair o'r llu, heb neb ei anafu ef. Ac yna y dywedodd y wraig go hen,—

"Fe ddarfu i'r gŵr ieuanc ladd llawer o'th lu. Dyro nawdd iddo?"

"Na roddaf, yn wir," ebe ef.

A'r wraig go hen a'r forwyn deg oedd ar fwlch y gaer yn edrych. Ac ar hynny cyfarfyddodd Peredur â'r gwas melyn, a lladdodd ef.

"Arglwydd," ebe y forwyn, "dyro nawdd i'r gwas ieuanc?"

"Na roddaf, yn wir," ebe y gŵr llwyd.

Ac ar hynny cyfarfyddodd Peredur â'r gwas gwineu, a lladdodd ef.

"Buasai'n well i ti pe rhoddasit nawdd i'r gŵr ieuanc cyn iddo ladd dy ddau fab. A phrin y dihengi dithau dy hun."

"Dos dithau, forwyn, ac ymbil â'r gŵr ieuanc roddi nawdd i ni."

A'r forwyn a ddaeth o'r lle yr oedd Peredur, ac erchi nawdd ei thad a wnaeth, ac i'r sawl a ddihangasai o'i wŷr yn fyw.

"Cei dan amod,—myned o'th dad a phawb sydd dano i wrhau i'r ymherawdwr Arthur, ac i ddywedyd wrtho mai Peredur, gŵr iddo, a wnaeth y gwasanaeth hwn."

"Gwnawn, yn wir, yn llawen."

"A chymeryd eich bedyddio. A minnau a anfonaf at Arthur, i erchi iddo roddi y dyffryn hwn i ti, ac i'th etifedd byth ar dy ol."