Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna y daethant i fewn, a chyfarch gwell a wnaeth y gŵr llwyd a'r wraig fawr i Beredur. Ac yna y dywedodd y gŵr llwyd,

"Er pan ydwyf yn meddu y dyffryn hwn ni welais gristion a elai a'i enaid ganddo oddi yma, ond dydi. A ninnau a awn i wrhau i Arthur, ac i gymeryd cred a bedydd."

Ac yna y dywedodd Peredur,—

"Diolchaf finnau i Dduw, na thorrais iunau fy llw wrth y wraig fwyaf a garaf, na ddywedwn un gair wrth gristion."

Trigo yno a wnaeth y nos honno. Trannoeth y bore aeth y gŵr llwyd a'i nifer gydag ef i lys Arthur. Daethant yn ddeiliaid iddo, a pharodd Arthur eu bedyddio. Ac yna dywedodd y gŵr llwyd wrth Arthur mai Peredur a'u gorchfygodd. A rhoddodd Arthur i'r gŵr llwyd a'i nifer y dyffryn i'w ddal dano ef, fel yr archodd Peredur. A chan gennad Arthur aeth y gŵr llwyd ymaith tua'r Dyffryn Crwn.

Peredur yntau a gerddodd rhagddo y bore drannoeth trwy ddiffaethwch hir heb gael cyfannedd. Ac yn y diwedd ef a ddaeth i gyfannedd fechan foel. Ac yno y clywai fod sarff yn gorwedd ar fodrwy aur, ac ni adawai neb fyw saith milltir o bob tu iddi.

 Ac aeth Peredur i'r lle y clywai fod y sarff, ac ymladd a wnaeth â'r sarff yn llidiog iawn. Ac yn y diwedd lladdodd hi, a chymerodd y fodrwy iddo ei hun. Ac felly y bu ef yn cerdded yn hir, heb ddweyd yr un gair wrth yr un cristion. Ac am hynny yr oedd yn colli ei liw a'i wedd o