Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hiraeth gwir am lys Arthur, a'r wraig fwyaf a garai, a'i gyfeillion. Oddi yno y cerddodd tua llys Arthur. Ac ar y ffordd cyfarfu teulu Arthur âg ef yn myned i neges, a Chai yn eu harwain. Adwaenai Peredur bawb o honynt, ond ni adwaenai neb o teulu ef.

"O ba le y deui, unben?" ebe Cai, ddwy waith a thair. Ond ni atebodd ef un gair. Ei wanu a wnaeth Cai â gwaew dan ei forddwyd. A rhag iddo gael ei orfodi i siarad, a thorri ei lw, myned heibio a ddarfu heb ymryson âg ef. Ac yna y dywedodd Gwalchmai,—

"Yn wir, Cai, drwg wneist yn archolli y gwr ieuanc yma er na allai siarad." A dychwelodd Gwalchmai drachefn i lys Arthur.

"Arglwyddes," ebe ef wrth Wenhwyfar, "a weli di archoll mor ddrwg a wnaeth Cai ar y gŵr ieuanc yma er na allai ddywedyd. Ac er Duw ac erof finnau, par di ei feddyginiaethu ef. A phan ddychwelwyf eto mi a dalaf y pwyth i ti."

Cyn i'r gwŷr ddyfod yn ol o'u neges, daeth marchog i'r weirglodd, yn ymyl llys Arthur, i erchi gŵr i ymladd. A hynny a gafodd, a Pheredur a'i taflodd ef. Ac wythnos y bu yn taflu marchog bob dydd. Ac un dydd yr oedd Arthur a'i deulu yn dyfod i'r eglwys, a'r hyn welent oedd marchog wedi codi arwydd ymladd.

"Ha wyr," ebe Arthur, "myn grym gŵr, nid af oddi yma hyd oni chaffwyf fy march a'm harfau i daflu yr hunan acw."

Yna yr aeth gweision yn ol march ac arfau i Arthur. A Pheredur a gyfarfu y