gweision yn myned heibio, a chymerodd y march a'r arfau, ac aeth i'r weirglodd. A phan welsant ef yn cyfodi ac yn myned i'r weirglodd i ymladd, aeth pawb i ben y tai a'r bryniau, neu i le uchel, i weled yr ymladd. A'r hyn wnaeth Peredur oedd amneidio â'i law ar y marchog i erchi iddo ddechreu arno. A'r marchog a ymosododd arno, ond nid ysgogodd ef o'i lo er hynny. Ac yntau, Peredur, a ymbaratodd, ac a'i cyrchodd yn llidiog iawn ac angerddol, yn chwerw a phenderfynol, ac a wanodd ddyrnod wenwyn-llym, dost, debeuig ei ffurf, dan ei ddwy ên, nes ei godi oddi ar ei gyfrwy, a'i fwrw ymhell oddi wrtho. Ac yna dychwelodd, a gadawodd y march a'r arfau i'r gweision fel cynt. Ac aeth yntau ar ei draed i'r llys.
A'r gŵr ieuanc mud y gelwid Peredur yno. Ar hynny dacw Angharad Law Eurog yn ei gyfarfod.
"Yn wir, unben," ebe hi, "gresyn yw na alli siarad; a phe gallet siarad mi a'th garwn yn fwyaf gŵr. Ac myn fy llw, er nas gelli, mi a'th garaf yn fwyaf gŵr."
"Duw a dalo i ti, fy chwaer," ebe Peredur, "a myn fy llw, minnau a'th garaf di."
Ac yna y gwybyddwyd mai Peredur oedd.
Ac yna y bu ef mewu cymdeithas â Gwalchmai, ac Owain fab Uryen, ac â phawb o'r teulu, a thrigodd yn llys Arthur.
Arthur a oedd yng Nghaer Lleon ar Wysg. A myned a wnaeth i hela, a Pheredur gydag ef. A Pheredur a ollyngodd ei gi ar ol hydd. A'r ci a laddodd yr hydd mewn diffaethwch. Ac ychydig