bellter oddi wrtho gwelai gyfannedd. A thua'r gyfannedd y daeth. Ac ef a welai neuadd. Ac wrth ddrws y neuadd gwelai dri gwas penfoel yn chware gwydd-bwyll. A phan ddaeth i fewn, gwelai dair morwyn yn eistedd ar fainc, a gwisgoedd yr un fath am danynt, fel y gweddai i foneddigesau.
Ac aeth Peredur i eistedd atynt ar y fainc. Ac un o'r morwynion a edrychodd yn graff ar Beredur, a wylo a wnaeth. A Pheredur a ofynnodd iddi am beth y wylai.
"Gan mor drist gennyf weled lladd gŵr cyn deced a thi."
"Pwy a'm lladd i?" ebe Peredur.
"Pe yr ateliai hyn i ti aros yn y lle hwn, mi a'i dywedwn i ti."
"Er maint fo y llafur arnaf yn aros, mi a'i gwrandawaf."
"Y gŵr sydd dad i mi," ebe y forwyn, "biau y llys hwn, a hwnnw a ladd bawb a ddel i'r llys heb ei ganiatad."
"Pa ryw wr yw eich tad chwi pan allo ladd pawb felly?"
"Gwr yw a wna drais a cham i'w gymdogion, ac ni wna iawn i neb am hynny."
Ac yna y gwelai ef y gweision yn cyfodi, ac yn cadw y werin oddi ar y bwrdd. Ac efe a glywai dwrf mawr. Ac wedi y twrf gwelai ŵr du mawr un llygad yn dyfod i fewn. A'r morwynion a gyfodasant i'w gyfarfod, a thynnu ei fantell oddi am dano a wnaethant. Ac wedi iddo sylwi ac arafu, edrych a wnaeth ar Beredur, a gofyn pwy oedd y marchog.
"Y gwas ieuanc tecaf a bonheddigeiddiaf a welaist erioed.