Ac er Duw, ac er dy hynawsedd dy hun, cymer bwyll gydag ef."
"Erot ti mi a bwyllaf, ac a roddaf ei fywyd iddo heno."
Ac yna y daeth Peredur atynt wrth y tân. Ac a gymerth fwyd a diod, ac ymddiddan â'r rhianod a wnaeth. Ac yna y dywedodd Peredur wrth y gŵr du,—
"Rhyfedd yw gennyf dy fod gadarned ag y dywedi dy fod. Pwy a dynnodd dy lygad di?"
"Un o'm rheolau yw," ebe y gŵr du, pwy bynnag a ofyn i mi yr hyn yr wyt ti wedi ei ofyn, na chaiff ei fywyd gennyf yn rhad nac ar werth."
"Arglwydd," ebe y forwyn, er a ddywedo yn ysgafn am danat, cadw y gair a ddywedaist gynneu, ac a addewaist wrthyf."
"A minnau a wnaf hynny yn llawen erot," Ebe y gŵr du. "Mi a adawaf Ei fywyd iddo yn llawen heno."
Ac felly y trigasant y nos honno. A thrannoeth cyfodi a wnaeth y gŵr du, a gwisgo arfau am dano. Ac archodd i Peredur,—
"Cyfod, ddyn, i fyny i ddioddef angeu," ebe y gŵr du.
Peredur a ddywedodd wrtho,— "Gwna y naill beth, y gŵr du, os ymladd a fynni â mi,—ai tynnu dy arfau oddi am danat, ai rhoddi arfau eraill i minnau i ymladd â thi.”
"Ha, ddyn, a'i ymladd a allet ti pe caffet arfau? Cymmer yr arfau a fynnot."
Ar hynny daeth y forwyn â'r arfau a oedd yn hoff ganddo i Beredur. Ac ymladd a