wnaeth â'r gŵr du, nes y bu raid i'r gwr du erchi nawdd Peredur.
"Y gŵr du, ti a geffi nawdd tra y byddi yn dweyd wrthyf pwy wyt, a phwy dynnodd dy lygad."
"Arglwydd, minnau a ddywedaf. Ymladd y bum â'r pryf du o'r Garn. Crug sydd a clwir Crug Alar, ac yn y grug y mae carn. Ac yn y garn y mae y pryf. Ac yng nghynffon y pryf y mae maen. A rhinweddau y maen ydynt,—pwy bynnag a'i caffai yn ei naill law, ar ei law arall caffai a fynnai o aur. Ac wrth ymladd â'r pryf hwnnw y collais i fy llygad. A'm henw innau yw y Du Trahaus. A'r achos fy ngalw y Du Trahaus yw am na adawn ddyn yn agos i'm heb ei dreisio, ac iawn nis gwnawn i neb."
"Ie," ebe Peredur, "pa cyn belled yw y grug a ddywedi?"
"Y dydd y cychwynni oddi yma, ti a ddoi i lys meibion Brenin y Dioddefaint."
"Paham y gelwir hwy felly?"
"Bwystfil y llyn a'u tarawai unwaith bob dydd. Pan ddeui oddi yno ti a ddeui i lys Iarlles y Campau."
"Pa gampau," ebe Peredur, sydd yno?"
"Tri chan ŵr sydd iddi yn deulu. A dywedir campau y teulu i bob dyn dieithr a ddel i'r llys. A'r achos am hynny yw hyn, —y tri chan ŵr y teulu a eistedd yn nesaf at yr arglwyddes. Ac nid er amharch i'r dieithriaid, ond er dywedyd campau y llys. Y dydd yr ai oddi yno y deui i'r Grug Galarus. Ac yno y mae perchen tri chan pabell o gylch y grug yn cadw y pryf."