"Gan dy fod wedi gorthrymu cyhyd a hyn, mi a wnaf na wnai byth bellach."
A Pheredur a'i lladdodd. Ac yna y dywedodd y forwyn a ddechreuasai ymddiddan âg ef,—
"Os mai tlawd y daethost yma, cyfoethog fyddi bellach o drysor y gŵr du a leddaist. A thi a weli y fath forwynion hygar y sydd yn y llys hwn. Ti a geffi yr un a fynni o honynt yn wraig."
"Ni ddaethum i yma o'm gwlad, arglwyddes, i wreica; ond gweision hygar a welaf yma. Prioded pawb o honoch â'u gilydd fel y mynno. A dim o'ch da chwi nis mynnaf, ac nid rhaid i'm wrtho."
Oddi yno cychwynnodd Peredur rhagddo, a daeth i lys meibion Brenin y Dioddefaint. A phan ddaeth i'r llys ni welai ond gwragedd. A'r gwragedd a gyfodasant i'w gyfarfod, ac a fuont lawen wrtho. Ac ar ddechreu eu hymddiddan ef a welai farch yn dyfod a chyfrwy arno, a chorff ar y cyfrwy. Ac un o'r gwragedd a gyfododd i fyny, ac a gymerth y corff o'r cyfrwy, ac a'i golchodd mewn cawg oedd is law y drws a dwfr twym ynddi, ac a ddodes eli gwerthfawr arno. A'r gŵr a gyfododd yn fyw, ac a ddaeth i'r lle yr oedd Peredur, gan ei groesawu. A bu yn llawen wrtho. A dau ŵr arall a ddaeth yn eu cyfrwyau. A'r un peth a wnaeth y forwyn i'r ddau hynny ac a wnaethai i'r cyntaf. Ac yna y gofynnodd Peredur i'r unben paham yr oeddynt felly. Hwythau a ddywedasant fod bwystfil mewn ogof, ac