mai hwnnw a'u tarawai unwaith bob dydd. Ac felly y trigasant y nos honno. A thrannoeth y cyfododd y gweision i fyned rhagddynt. A Pheredur a archodd, er mwyn y ferch a garent fwyaf, iddynt ei adael fyned gyda hwy. A hwythau a omeddasant iddo gan ddywedyd,—
"Pe y'th leddid yno, nid oes i ti a'th wnelai yn fyw drachefn."
Ac yna y cerddasant rhagddynt. A cherddodd Peredur yn eu hol. Ac wedi iddynt ddiflannu fel na welai hwy, cyfarfu â'r wraig decaf a welsai neb yn eistedd ar ben crug.
"Mi a wn dy hynt," ebe hi; "myned yr wyt i ymladd â'r bwystfil. Ac efe a'th ladd, —nid am ei fod yn ddewr, ond am ei fod yn gyfrwys. Ogof sydd iddo, a philer maen sydd ar ddrws yr ogof. Ac y mae ef yn gweled pawb yn dyfod i fewn, ond ni wel neb ef. Ac â llech—waew wenwynig o gysgod y piler y lladd efe bawb. A phe rhoddet ti dy lw y caret fi yn fwyaf gwraig, mi a roddwn i ti faen fel y gwelot ef pan elot i fewn, ond ni welai ef dydi."
"Rhoddaf, yn wir," ehe Peredur, "er pan y'th welais gyntaf mi a'th gerais. A pha le y ceisiwn i dydi?"
"Pan geisiech di myfi cais tua'r India."
Ac yna y diflannodd y forwyn ymaith, wedi rhoddi y maen yn llaw Peredur. Ac yntau a ddaeth i ddyffryn afon. A gororau y dyffryn oedd yn goed, ac o bob tu i'r afon yn weirgloddian gwastad. Ac ar un ochr i'r afon gwelai yr o ddefaid gwynion, ac ar yr ochr arall gwelai yr o ddefaid duon. Ac