Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un o'r defaid gwynion, deuai un  o'r defaid duon drwodd a byddai yn wen. Ac fel y brefai un o'r defaid duon, deuai un o'r defaid yn wyn, a gwynion drwodd a byddai yn ddu. A phren hir a welai ar lan yr afon; a'r naill hanner o hono yn llosgi o'r gwraidd hyd y blaen, a'r hanner arall a dail îr arno.

Ac uwch law yr afon gwelai was ieuanc yn eistedd ar ben crug, a dan filgi bronwynion brychion mewn cadwyni yn gorwedd yn ei ymyl. A diau oedd ganddo na welodd erioed was ieuanc mor urddasol ag ef. Ac yn y coed ar ei gyfer clywai helgwn yn codi hydd. A chyfarch gwell a wnaeth i'r gwas ieuanc, a'r gwas ieuanc a gyfarchodd well i Beredur. A thair ffordd a welai Peredur yn myned oddiwrth y grug. Dwy ffordd yn fawr, a'r drydedd yn llai. A gofyn a wnaeth Peredur i ba le yr äi y tair ffordd.

"Un o'r ffyrdd a ä i'm llys i. A chynghoraf di wneyd un o ddau beth,— mynod i'r llys o'm mlaen at fy ngwraig sydd yno, ynte aros yma, a thi a weli yr helgwn yn codi yr hyddod blin o'r coed i'r maes. A thi a weli y milgwn goreu a glewaf a welaist erioed yn lladd yr hyddod wrth y dwfr is law. A phan fo yn amser i ni fyned i fwyta, daw fy ngwas â'm march i'm cyfarfod. A thi a geffi groesaw yn fy llys heno." "Duw a ddiolcho i ti. Nid arhosaf fi, ond ymlaen yr af."

"Y naill ffordd a ä i'r ddinas sydd yn agos yma, ac yn honno ceffir bwyd a diod ar werth; a'r ffordd y sydd lai na'r lleilla ä tuag Ogof y Bwystfil."