Gleddyf Coch ym gelwir, iarll o ystlys y dwyrain."
"Rhyfedd gennyf dy fod yn cynnyg dy hun yn was i ŵr nad yw ei gyfoeth yn fwy na'th gyfoeth di. Nid oes i minnau ond iarllaeth arall. Ac am mai gwiw gennyt ti ddyfod yn was i mi, mi a'th gymeraf yn llawen."
A dyfod a wnaethant tua llys yr iarlles. A llawen fuwyd wrthynt yn y llys. A dywedwyd wrthynt mai nid er amharch iddynt y dodid hwy is law y teulu wrth y bwrdd, ond mai arferiad y llys oedd hynny. Ond y neb a daflai dri channwr ei theulu hi, bwyta a gaffai yn nesaf iddi, a hi a'i carai yn fwyaf gwr."
Ac wedi i Peredur daflu tri channwr y teulu i'r llawr, ac eistedd ar y naill law iddi, y dywedodd yr iarlles,—
"Diolchaf i Dduw am gael gwas cyn deced a chyn hardded a thi, gan na chefais y gŵr mwyaf a garwn.'"
"Pwy oedd y gŵr mwyaf a garet tithau?"
"Yn wir, Etlym Gleddyf Coch oedd y gŵr mwyaf a garwn i, ac nis gwelais ef erioed."
Yn wir, cydymaith i mi yw Etlym.—a dyma ef. Ac er ei fwyn ef y daethum i chware a'th deulu di. Ac ef a allai wneyd hynny yn well na myfi pe mynnai. A minnau a'th roddaf di iddo ef."
"Duw a dalo i tithau, ŵr ieuanc, teg. A minnau a gymeraf y gŵr mwyaf a garaf."
A'r nos honno priodwyd Etlym a'r iarlles.
A thrannoeth cychwyn a wnaeth Peredur tua'r Crug Galarus.