"Myn dy law di, arglwydd, mi a ddeuaf gyda thi," ebe Etlym.
A hwy a ddaethant hyd i'r lle y gwelent y crug a'r pebyll.
"Dos," ebe Peredur wrth Etlym, "at y gwyr acw, ac arch iddynt ddyfod i wrhau i mi,"
Ac aeth Etlym atynt, ac a ddywedodd wrthynt fel byn,—
"Deuwch i wrhau i'm harglwydd i."
Pwy yw dy arglwydd di?" ebe hwythau. "Peredur Paladyr Hir yw fy arglwydd i," ebe Etlym.
"Pe gweddus difetha cennad, ni aet drachefn yn fyw at dy arglwydd, am erchi arch mor drahaus i frenhinoedd, a ieirll, a barwninid, a dyfod i wrhau i'th arglwydd di."
Peredur a archodd iddo fyned drachefn atynt, a rhoddi dewis iddynt, ai dyfod i wrhau iddynt ai i ymladd âg ef. Hwythau a ddewisasant ymladd âg ef. A Pheredur a daflodd berchen can pabell y dydd hwnnw i'r llawr.
A'r trydydd dydd penderfynodd cant wrhau i Beredur.
A Pheredur a ofynnodd iddynt, beth a wnaent yno. A hwythau a ddywedasant mai gwylio y pryf hyd nes y byddai farw yr oeddynt. "Ac yna ymladd a wnaem ninnau am y maen, a'r un fyddai drechaf o honom a gai y maen."
"Arhoswch fi yma," ebe Peredur, "mi a af i ymweled â'r pryf."
"Nage ef, arglwydd," ebe hwy, "awn i gyd i ymladd â'r pryf."
"Ie," ebe Peredur, "ni fynnaf fi hynny.