Pe lladdwn i y pryf, ni chawswn i fwy o glod nag un o honoch chwithau."
A myned a wnaeth i'r lle yr oedd y pryf, a'i ladd. A dyfod atynt hwythau, a dywed— yd wrthynt,—
"Cyfrifwch eich traul er pan ddaethoch yma, a mi a'i talaf i chwi," ebe Peredur.
Ac efe a dalodd gymaint ag a ddywedodd pawb oedd ddyledus iddo; ac ni archodd iddynt ddim ond addef eu bod yn wŷr iddo ef. Ac efe a ddywedodd wrth Etlym,—
"At y wraig fwyaf a geri yr äi díthau.
A minnau a af rhagof. Ac mi a dalaf i ti am fod yn was i mi."
Ac yna y rhoddodd efe y maen i Etlym
"Duw a dalo i ti, a rhwydded Duw dy daith."
Ac ymaith yr aeth Peredur. Ac efe a ddaeth i ddyffryn ag afon yno, y tecaf a welsai erioed. A llawer o bebyll amryliw a welai ef yno. A rhyfeddach na hynny oedd ganddo weled cynifer a welai o felinau dwfr a melinau gwynt. A chyfarfyddodd gwr gwineu mawr âg ef, a gwaith saer ganddo. A gofyn pwy oedd a wnaeth Peredur.
"Pen melinydd wyf fi," ebe ef, "ar y melinau acw oll."
"A gaf fi lety gennyt?" ebe Peredur.
"Ceffi yn llawen," ebe yntau.
A daeth Peredur i dŷ y melinydd. Ac efe a welodd mai llety hoff, teg, oedd i'r melinydd. A gofynnodd Peredur i'r melinydd arian yn fenthyg i brynnu bwyd a diod iddo, ac i dylwyth y ty, ac y talai iddo cyn yr äi oddi yno. A gofyn a wnaeth i'r melinydd pa achos y deuai cynifer o bobl yno. Yna y dywedodd y melinydd wrth Peredur,—