"Mae y naill beth,—am dy fod yn wr o bell, ynte am dy fod yn ynfyd. Yma y mae brenhines Cristinobyl Fawr. Ac ni fyn honno ond y gŵr dewraf, canys nid rhaid iddi wrth eiddo. Ac ni ellid dwyn bwyd i'r fath filoedd ag sydd yma. Ac achos hynny y mae yr holl felinau hyn."
A'r nos honno cymeryd eu hesmwythder a wnaethant. A thrannoeth cyfodi i fyny a wnaeth Peredur, a gwisgo am dano ac am ei farch i fyned i'r twrneiment. A gwelai babell ymhlith y pebyll eraill y rhai tecaf a welsai erioed. A morwyn deg a welai yn estyn ei phen trwy ffenestr ar y babell. Ac ni welsai erioed forwyn decach. Ac eurwisg o bali am dani. Ac edrych a wnaeth ar y forwyn yn graff, a'i charu yn fawr wnai. Ac felly y bu yn edrych ar y forwyn o'r bore hyd hanner dydd; ac o hanner dydd hyd nes oedd brydnawn. Ac yna fe ddarfyddodd y twrneiment. A dyfod a wnaeth i'r llety, a thynnu ei arfau oddi am dano, a gofyn arian yn fenthyg i'r melinydd. A dig fu gwraig y melinydd wrth Peredur; ond er hynny, rhoddodd y melinydd arian yn fenthyg iddo. A thrannoeth y gwnaeth yr un wedd ac y gwnaeth y dydd cynt. A'r nos honno y daeth i'r llety, a chymerodd arian yn fenthyg gan y melinydd. A'r trydydd dydd, pan ydoedd yn yr un lle yn edrych ar y forwyn, clywai ddyrnod mawr rhwng ei ysgwydd a'i wddf â throed bwyall. A phan edrychodd drachefn y melinydd oedd yno. Y melinydd a ddywedodd wrtho,—
"Gwna y naill beth,—dos ymaith, ynte el i'r twrneiment."