Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A gwenu a wnaeth Peredur ar y melinydd, a myned i'r twrneiment. Ac a gyfarfu âgef y dydd hwnnw efe a'u taflodd hwy oll i'r llawr; ac anfonodd yr holl wŷr a daflodd yn anrheg i'r ymherodres, a'r meirch a'r arfau yn anrheg i wraig y melinydd am aros am yr arian benthyg. Dilyn y twrneiment a wnaeth Peredur oni thaflodd bawb i lawr; ac anfon y gwyr a wnaeth i garchar yr ymherodres, a'r meirch a'r arfau i wraig y melinydd am aros am yr arian benthyg. Yr ymherodres a anfonodd at farchog y felin i erchi iddo ddyfod i ymweled â hi. A gwrthod a wnaeth Peredur y gennad gyntaf. A'r ail a aeth ato. A hithau y drydedd waith anfonodd gan marchog i erchi iddo ddyfod i ymweled â hi. Ac oni ddeuai o'i fodd, erchi iddynt ei ddwyn o'i anfodd. A hwy a aethant ato, ac a ddywedasant eu cenadwri oddi wrth yr ymherodres. A Pheredur a ymladdodd yn dda â hwy, ac a barodd eu rhwymo hwy fel rhwymo iwrch, a'u bwrw i ffos y felin. A'r ymherodres a ofynnodd gyngor y gŵr doeth a oedd yn ei chyngor. A hwnnw a ddywedodd wrthi,—

"Mi a af ato, os caniatei."

A dyfod a wnaeth at Peredur a chyfarch gwell iddo, ac erchi arno, er mwyn y ferch fwyaf a garai, i ddyfod i ymweled â'r ymherodres. Ac yntau a aeth,—ef a'r melinydd. Ac yn yr ystafell gyntaf y daeth iddi o'r babell eisteddodd. A hithau a ddaeth ar y naill law; a byr ymddiddan a fu rhyngddynt. Ac wedi cael cennad, myned a wnaeth Peredur i'w lety. Trannoeth ef a aeth i ymweled â hi. A phan ddaeth i'r babell, nid oedd un o ystafelloedd y babell