Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn waeth eu diwyg na'u gilydd, am na wyddent hwy pa le yr eisteddai ef. Eistedd a wnaeth Peredur ar y naill law i'r ymherodres, ac ymddiddan a wnaeth yn garedig. Pan yr oeddynt felly hwy a welent ŵr du yn dyfod i mewn, a chwpan aur yn ei law yn llawn o win. A phlygu a wnaeth ar ben ei lin gerbron yr yinherodres, ac erchi arni na roddai hi ond i'r neb a ddelai i ymladd âg ef am dani. A hithau a edrychodd ar Peredur.

"Arglwyddes," ebe ef, "moes i mi y gwpan."

Ac yfed y gwin a wnaeth Peredur, a rhoddi y gwpan i wraig y melinydd. A phan yr ydoedd felly, wele ŵr mwy na'r llall, ag ewin pryf yn ei law ar ffurf ewpan, a'i lonaid o win. Rhoddodd ef i'r ymherodres, gan erchi arni na roddai ef ond i'r neb a ymladdai âg ef.

"Arglwyddes," ebe Peredur, "moes ef i mi,"

A'i roddi i Beredur a wnaeth hithau; ac yfed y gwin a wnaeth Peredur, a rhoddi y gwpan i wraig y melinydd. A phan oedd- ynt felly, wele ŵr pengrych coch, oedd fwy nag un o'r gwŷr eraill, a chawg yn ei law a'i lonaid o win ynddo. A phlygodd ar ben ei lin o flaen yr ymherodres, ac a'i rhoddodd iddi, gan erchi iddi na roddai y cawg ond i'r un a ymladdai âg ef am dano. A'i roddi a wnaeth hithau i Beredur, ac yntau a'i hanfonodd i wraig y melinydd. A'r nos honno myned i'w lety a wnaeth Peredur. A thrannoeth gwisgo am dano, ac am ei farch, a dyfod i'r weirglodd a lladd y tri wyr a wnaeth Peredur. Ac yna y daeth