Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r babell; a hithau a ddywedodd wrth Peredur,—

"Peredur deg, coffa dy lw a roddaist ti i mi pan roddais i ti y maen pan leddaist y bwystfil."

"Arglwyddes," ebe ef, "gwir a ddywedi, a minnau a'i cofiaf."

Ac arhosodd Peredur gyda'r ymherodres bedair blynedd ar ddeg, fel y dywed yr ystori.

Arthur a oedd yng Nghaer Lleon ar Wysg, prif lys iddo. Ac yng nghanol llawr y neuadd yr oedd pedwar gŵr yn  eistedd ar len o bali,—Owain fab Uryen, a Gwalchmai fab Gwyar, a Howel fab Emyr Llydaw, a Pheredur Paladr Hir. Ac ar hynny hwy a welent yn dyfod i fewn forwyn ben—grech ddu ar gefn mul melyn. A charieu anhrefnus yn ei llaw yn gyrru y mul; a phryd garw ac angharuaidd arni. Duach oedd ei gwyneb a'i dwylaw na'r haiarn duaf wedi ei bygu. Ac nid ei lliw oedd yr hagraf, ond ei llun. Gruddiau aruchel oedd iddi, a gwyneb hirgul, a thrwyn byr, ffroen—foel. A'i naill lygad yn frith—las chwerw, a'r llall yn ddu fel y muchudd yng ngheunant ei phen. Dannedd hirion melynion,—melynach na. blodau y banadl. A chodai ei chorff oddi wrth ei dwyfron yn uwch na'i gên; ac asgwrn ei chefn a oedd fel bagl. Cyfarch gwell wnaeth i Arthur a'i deulu oll, ond i Beredur. Ac wrth Peredur dywedodd eiriau dig, anhygar.

"Peredur, ni chyfarchaf fi well i ti, ni