Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haeddi hynny. Dall fu ffawd pan roddodd i ti ddawn a chlod. Pan y daethost i lys y brenin cloff, a phan welaist yno y gwas yn dwyn y gwaew blaenllym, ac o flaen waew ddafan o waed, a hwnnw yn rhedeg yn rhaiadr hyd i ddwrn y gwas. A rhyfeddodau ereill hefyd a welaist yno. Ac ni ofynnaist eu hystyr, na'r achos o honynt. A phe gofynnet, iechyd a gaffai y brenin, a'i gyfoeth heddwch. A bellach, brwydrau ac ymladdau, a cholli marchogion, a gadael gwragedd yn weddw, a rhianod yn ddiamddiffyn fydd yno,—a hynny oll o'th achos di."

Ac yna y dywedodd hi wrth Arthur,— "Gan dy gennad, arglwydd, pell yw fy llety i oddi yma. Nid amgen nag yng nghastell Syberw—ni wn a glywaist am dano. Ac yn hwnnw y mae chwe marchog a thri ugain, a phum cant o farchogion urddol, a'r wraig fwyaf a gar pob un gydag ef. A phwy bynnag a fynno ennill clod am drin arfan ac am daro, ac ymladd, efe a'i caiff yno os yn ei haeddu. A phwy bynnag hefyd a fynnai glod ac edmygedd arbennig, gwn yn lle y caiff ef. Castell sydd ar fynydd amlwg; ac yn hwnnw y mae morwyn, a'i chystuddio a wneir yno. A phwy bynnag a allai ei rhyddhau, pen clod y byd a gai." Ac ar hynny cychwyn ymaith a wnaeth. Ebe Gwalchmai,—

"Myn fy nghred, ni chysgaf hun lonydd nes gwybod a allaf ollwng y forwyn." A llawer o deulu Arthur a gytunodd âg ef. Ond peth arall a ddywedodd Peredur,— "Myn fy nghred, ni chysgaf hun lonydd nes gwybod chwedl ac ystyr y waew y dywedodd y forwyn ddu am dani."