A phan yr ydoedd pawb yn paratoi i gychwyn, wele farchog yn dyfod i'r porth, yn meddu maint a nerth milwr ynddo, ac yn gyflawn o arfau a dillad. A daeth ymlaen gan gyfarch gwell i Arthur a'i deulu oll, eithr i Walchmai. Ac ar ysgwydd y marchog yr oedd tarian aur gerfiedig, a thrawst o las cryf ynddi; a'r un lliw a hynny yr oedd yr arfau eraill oll. Ac efe a ddywedodd wrth Walchmai,—
"Ti a leddaist fy arglwydd o'th dwyll a'th frad. A mi a brofaf hynny yn dy erbyn."
Cyfododd Gwalchmai i fyny. "Dyma," ebe ef, "fy ngwystl yn dy erbyn, nad wyf fi na thwyllwr na bradwr, yma nac yn y lle arall."
"Ger bron y brenin sydd arnaf fi, y mynnaf fod yr ymdrechfa rhyngof â thi," ebe y marchog.
"Yn llawen," ebe Gwalchmai, "dos rhagot. Mi a ddeuaf ar dy ol."
Rhagddo yr aeth y marchog; a pharatoi a wnaeth Gwalchmai. A llawer o arfau a gynhygiwyd iddo, ond ni fynnai ef ond ei rai ei hun. Gwisgo a wnaeth Gwalchmai a Pheredur am danynt, a cherddasant ar ei ol, o achos eu cyfeillgarwch a'r maint y carai y naill y llall. Ac nid aethant gyda'u gilydd, ond pawb ei ffordd ei hun.
Gwalchmai yn ieuenctid y dydd a ddaeth i ddyffryn. Ac yn y dyffryn gwelai gaer, a llys mawr yn y gaer, a thyrau uchel-falch o'i gylch. Ac efe a welai farchog yn dyfod i'r porth allan i hela ar farch gloyw ddu, nwyfus, cyflym, gerddai'n wastad, a hoyw, a di—dramgwydd. A phwy oedd ond y gŵr biai y llys.