Cyfarch gwell a wnaeth Gwalchmai iddo.
"Duw a roddo dda i ti, unben. O ba le y deui?"
"Deuaf o lys Arthur," ebe ef.
"Ai gŵr i Arthur wyt ti?"
"Ie, myn fy nghred," ebe Gwalchmai.
"Mi a wn gyngor da i ti," ebe y marchog. "Blin a lluddedig y'th welaf. Dos i'r llys, ac yno y trigi heno, os da gennyt."
"Da, arglwydd, a Duw a dalo i ti."
"Hwde fodrwy yn arwydd i'r porthor.
A dos rhagot i'r twr acw, mae chwaer i mi ynddo.
Ac i'r porth y daeth Gwalchmai, a dangos y fodrwy a wnaeth, a chyrchu y tŵr. A phan ddaeth i fewn yr oedd yno dân mawr yn llosgi, a fflam oleu, uchel, ddifwg, yn codi o hono, a morwyn fonheddig, lân, yn eistedd mewn cadair wrth y tân. A'r forwyn a fu lawen wrtho, a'i groesawu a wnaeth. Ac yntau a aeth i eistedd ar y naill law i'r forwyn; a'u cinio a gymerasant. Ac wedi eu cinio, dal i ymddiddan yn hygar a wnaethant. A phan oeddynt felly, dyma ŵr gwalltwyn bonheddig yn dyfod i fewn atynt.
"O ferch ddrwg," ebe ef, "pe meddyliet ti ai iawn yw i ti ddiddanu ac eistedd gyda'r gŵr yna, nid eisteddet ac ni ddiddanet ef."
Yna tynnodd ei ben o'r drws ac aeth ymaith.
"Ha, unben," ebe y forwyn, " pe gwnelet fy nghyngor i, ti a gauet y drws, rhag ofn fod gan y gŵr gynllwyn yn dy erbyn."
Cyfododd Gwalchmai i fyny, a phan ddaeth tua'r drws yr oedd y gŵr ar ei farch yn llawn arfau, yn cyrchu tua'r tŵr. A'r