Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Och, druan," ebe ef, "ni haeddi fendith, ac ni wnai les i ti, am dy fod yn gwisgo arfau ar ddydd mor bwysig a'r ddydd heddyw."

 "A pha ddydd yw heddyw?" ebe Peredur.

"Dydd Gwener y Groglith yw heddyw."

"Na cherydda fi,—ni wyddwn i hynny. Blwyddyn i heddyw y cychwynnais o'm gwlad."

Ac yna disgyn i lawr a wnaeth, ac arwain ei farch yn ei law. A thalym o'r ffordd a gerddodd oni ddaeth at groesffordd, ac ai'r groesffordd i'r coed. Ar ochr arall i'r coed of a welai gaer foel, ac arwydd fod pobl yn byw ynddi. A thua'r gaer yr aeth. Ac ar borth y gaer cyfarfu âg ef yr offeiriad a'i cyfarfyddasai ef cyn hynny; ac erchi ei fendith a wnaeth.

"Bendith Duw i ti," ebc ef, "ac iawnach yw cerdded fel y gwnai na marchogaeth. A chyda mi y byddi heno."

A thrigo a wnaeth Peredur y nos honno yno. Trannoeth gofyn a wnaeth Peredur gai fyned ymaith.

"Nid dydd heddyw i neb i gerdded. Ti a fyddi gyda mi heddyw, ac yfory a thrennydd. A mi a ddywedaf i ti yr hanes goreu a allwyf, am yr hyn yr wyt yn ei geisio."

A'r pedwerydd ddydd gofyn a wnaeth Pededur a gai fyned ymaith, ac erfyn ar yr offeiriad ddywedyd hanes am Gaer y Rhyfeddodau.

"Cymaint ag a wypwyf fi, mi a'i dywedaf i ti. Dos dros y mynydd acw, a thu hwnt i'r mynydd y mae afon. Ac yn nyffryn yr