Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afon y mae llys brenin. Ac yno y bu y brenin y Pasc. Ac os ceffi yn un lle hanes am Gaer y Rhyfeddodau, ti a'i ceffi yno." Ac yna y cerddodd Peredur rhagddo, ac a ddaeth i ddyffryn yr afon. A chyfarfu âg ef nifer o wyr yn myned i hela. Ac ef a welai ymhlith y nifer ŵr urddasol, a chyfarch gwell iddo a wnaeth Peredur.

"Dewis di, unben, pa un wnai ai myned i'r llys, ynte dyfod gyda ni i hela. A minnau a yrraf un o'r teulu i'th orchymyn i ferch sydd yno i gymeryd bwyd a diod hyd oni ddelwyf o hela. Ac an dy negesau, yr hyn a allaf ei wneuthur, mi a'i gwnaf yn llawen.

A gyrru a wnaeth y brenin was byr-felyn gydag ef. A phan ddaethant i'r llys yr oedd yr unbennes wedi cyfodi, ac yn myned i ymolchi. Aeth Peredur rhagddo. A hi a groeshawodd Peredur yn llawen, ac a archodd iddo eistedd wrth ei hochr. A chymeryd eu cinio a wnaethant. A pha beth bynnag a ddywedai Perodur wrthi; chwerthin a wnai hithau yn uchel, fel y clywai pawb yn y llys. Ac yna y dywedodd y gwas byr-felyn wrth yr unbennes:—

 "Myn fy nghred, os bu gŵr i ti erioed, y ieuanc hwn yw. Ac oni bu gŵr it y mae dy fryd a'th feddwl arno."

A'r gwas byr-felyn a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd mai tebycaf oedd ganddo fod y gŵr ieuanc a'i cyfarfu ef yn wr i'w ferch.

"Ac onid gŵr mi a debygaf y bydd yn ŵr iddi yn fuan oni ateli ef."

"Beth yw dy gyngor di, was?" ebe'r brenin.