Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yntau a ddaeth hyd lle yr oedd Peredur, a chyfarch gwell iddo a wnaeth. A dywedyd wrtho y gwasanaeth a wnaeth, ac y talai iddo megys y mynnai of ei hun. A phan aethpwyd i fwyta, dodwyd Peredur i eistedd ar y naill law i'r brenin, a'r forwyn yr ochr arall i Beredur.

"Mi a roddaf it," ebe y brenin, "fy merch yn briod, a hanner fy mrenhiniaeth gyda hi. A dwy iarllaeth a roddaf i ti yn rhodd."

Arglwydd Dduw a dalo it," ebe Peredur, "ni ddaethum i yma i wreica."

"Beth a geisi dithau, unben?"

"Ceisio chwedlau yr wyf fi am Gaer y Rhyfeddodau."

"Mwy yw meddwl yr unben nag ydym yn ei geisio?" ebe y forwyn. "Chwedlau am y Gaer a geffi. A hebryngydd i ti trwy gyfoeth fy nhad, a digonir di â phopeth. A thydi, unben, yw y i gŵr mwyaf a garaf fi." Ac yna y dywedodd,—

 "Dos dros y mynydd acw, a thi a weli llyn a chaer o fewn y llyn. A hwnnw a elwir Caer y Rhyfeddodau. Ac ni wyddom ni ddim o'i ryfeddodau ef, eithr y gelwir ef felly."

A dyfod a wnaeth Peredur tua'r Gaer. A phorth y gaer oedd yn agored. Ac fel y deuai i mewn gwydd-bwyll a welai yn y neuadd. A phob un o'r werin yn chwareu yn erbyn eu gilydd. A chollai yr ochr garai ef y chwareu, a'r llall a ddodai waedd yr un wedd a phe byddent wyr. A'r hyn a wnaeth yntau oedd digio, a chymeryd y werin yn ei arffed, a thaflu y bwrdd i'r llyn. A phan