Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddisgwyl am yr ymryson. Ac ar fy llw deuaf i'r carchar drachefn."

 "Yn llawen," ebe hi, "mi a baraf i ti farch ac arfau."

A hi a roddodd iddo farch ac arfau, a mantell burgoch ar uchaf yr arfau, a tharian felen ar ei ysgwydd. A myned i'r ymryson a wnaeth. Ac a gyfarfu âg ef o wyr yr iarll y dydd hwnnw efe a'u taflodd oll i'r llawr. Ac ef a ddaeth drachefn i'r carchar. Gofyn chwedlau a wnaeth y forwyn i Peredur, ac ni ddywedodd ef un gair wrthi. A hithau a aeth i ofyn chwedlau i'w thad, a gofyn a wuaeth pwy a fuasai oreu o'i deulu. Yntau a ddywedai nas adwaenai ef.

"Gŵr oedd â mantell goch ar uchaf ei arfau, a tharian felen ar ei ysgwydd."

A gwenu a wnaeth hithau, a dyfod i'r lle yr oedd Peredur. A da fu ei barch y nos honno.

A thridiau yn olynol y lladdodd Peredur wyr yr iarll. A deuai i'r carchar drachefn cyn y caffai neb wybod pwy oedd. A'r pedwerydd ddydd y lladdodd Peredur yr iarll ei hunan. A dyfod a wnaeth y forwyn i gyfarfod ei thad, a gofyn chwedlau iddo.

"Chwedlau da," ebe y brenin, "lladd yr iarll; a minnau biau y ddwy iarllaeth."

"A wyddost ti, arglwydd, pwy a'i lladdodd ef?"

"Gwn," ebe y brenin, "marchog y fantell goch a'r darian felen a'i lladdodd."

Arglwydd," ebe hi, "myfi a wn pwy yw hwnnw."

Yn wir," ebe yntau, "pwy yw ef?"

"Arglwydd," ebe hi, "y marchog y sydd yng ngharchar gennyt yw hwnnw."