Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ha, forwyn," ebe Peredur, "pa le mae yr ymherodres?"

"Yn wir, nis gweli di hi yn awr, oni fydd i ti ladd yr ormes sydd yn y fforest acw."

"Pa ryw ormes yw honno?"

"Carw sydd yno, a chyn ebrwydd yw a'r aderyn cyntaf, ac un corn sydd yn ei dalcen, cyhyd a choes gwaew, a chyn flaen—llymed yw a'r dim blaen—llymaf. A thorri a wna  frig y coed goreu yn y fforest; a lladd pob anifail ynddi a gyffyrddo âg ef; ac er na laddo hwy, marw fyddant o newyn. A gwaeth na hynny, dyfod a wna beunydd ac yfed y pysgod—lyn yn ddiod, gan adael y pysgod yn noeth; a meirw a wna y rhan fwyaf o honynt cyn y del dwfr iddo drachefn."

"Ha, forwyn," ebe Peredur, "a ddeui di i ddangos yr anifail hwnnw i mi?"

"Na ddeuaf,—ni feiddiodd dyn fyned i'r fforest er ys blwyddyn. Mae yna gi bach i'r ymherodres, a hwnnw a gyfyd y carw, ac a ddaw âg ef atat ti; a'r carw a'th gyrch di."

Y ci bach a aeth yn arweinydd i Beredur, ac a gyfododd y carw, a daeth tua'r lle yr oedd Peredur ac ef. A'r carw a gyrchodd Peredur, ac yntau a adawodd iddo fyned heibio, gan daraw ei ben oddi arno â cleddyf. A phan ydoedd yn edrych ar ben y carw, ef a welai farchoges yn dyfod tuag ato, ac yn cymeryd y ci bach yn llawes ei chot, a'i ben rhyngddo a'r corff, a thorch o rudd—aur a oedd am ei wddf.

"Ha, unben," ebe hi, "anfoesgar y gwnaethost,—lladd y tlws tecaf a oedd yn fy nghyfoeth."