Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gofynnwyd i mi wneyd hyn. A oes yna wedd y gallwn i gael dy faddeuant di?"

"Oes; dos i fron y mynydd acw, ac yno ti a weli lwyn, ac ym mon y llwyn y mae llech; ac yno galw ar ŵr i ymladd deirgwaith. Ti a geffi fy maddeuant."

Peredur a gerddodd rhagddo, ac a ddaeth i ymyl y llwyn, ac a archodd wr i ymladd. A chyfododd gŵr du o dan y llech, a march ysgyrniog dano, ac arfau rhydlyd mawr am dano ac am ei farch. Ac ymladd a wnaethant. Ac fel y taflaí Peredur y gŵr du i lawr, y neidiai yntau ar ei gyfrwy drachefn.

 A disgyn a wnaeth Peredur, a thynnu cleddyf. Ac ar hynny diflannu a wnaeth y gŵr du â march Peredur ganddo a'i farch ei hun, fel na welodd ef ail olwg arnynt. A cherdded a wnaeth Peredur ar hyd y mynydd. Ac yn y rhan arall o'r mynydd ef a welai gaer mewn dyffryn yr ai afon drwyddo. A thua'r gaer y daeth. Ac fel y deuai i'r gaer neuadd a welai, a drws y neuadd yn agored. Ac i mewn y daeth. Ac ef a welai ŵr llwyd cloff yn eistedd wrth dalcen y neuadd, a Gwalchmai yn eistedd ar y naill law. A'i farch a ddygsai y gŵr du a welai wrth yr un preseb a march Gwalchmai. A llawen a fuant wrth Peredur. A myned i eistedd a wnaeth yr ochr arall i'r gŵr llwyd. Ac ar hynny wele was melyn yn plygu ar ben ei lin ger bron Peredur.

"Arglwydd," ebe y gwas, "mi a ddaethwn yn rhith y forwyn ddu i lys Arthur. A phan fwriaist y bwrdd, a phan leddaist y gŵr du o Ysbidinongyl, a phan leddaist y carw, a phan fuost yn ymladd â'r gwr o'r