llech. A mi a ddaethum a'r pen yn waedlyd ar y ddyscl, a'r waew yr oedd ffrwd waed yn rhedeg o'r pen hyd y dwrn,—ar hyd y coes. A'th gefnder oedd biau y pen. A Gwiddonod Caer Loyw a'i lladdasai. A hwy a gloffasant dy ewyrth. A'th gefnder wyf finnau. A'r syniad yw y bydd i ti ddial arnynt."
A chyngor fu gan Peredur a Gwalchmai i
anfon at Arthur a'i deulu i erchi
arnynt ddyfod yn erbyn y Gwiddonod. A dechreu ymladd â'r
Gwiddonod a wnaethant. A lladd
un o wyr Arthur ger bron Peredur a wnaeth un o'r Gwiddonod.
A'u gwahardd a wnaeth Peredur. A'r eilwaith lladd gŵr a wnaeth y Widdon ger
bron Peredur. A Pheredur a'i gwahardd
eilwaith. A'r drydedd waith lladd gŵr a
wnaeth y Widdon ger bron Peredur. A
thynnu cleddyf a wnaeth Peredur, a tharo y
Widdon ar uchaf ei helm, oni hyllt yr helm,
a'r arfau oll, a'r pen yn ddau hanner. A
dodi llef a wnaeth, ac erchi i'r swynwragedd
eraill ffoi, a dywedyd mai Peredur oedd.
Y gŵr a fuasai yn dysgu marchogaeth gyda
hwynt. Ac yr oedd tynged mai ef a'u
lladdai. Ac yna y lladdwyd Gwiddonod
Caer Loyw oll. Ac felly y traethir am Gaer
y Rhyfeddodau.