BREUDDWYD RHONABWY.
——————
MADOG fab Meredydd a feddai Bowys yn ei derfynau, sef yw hynny, o Borfoed hyd yng Ngwanan yu eithaf Arwystli. Ac yn yr amser hwnnw brawd a oedd iddo,—sef oedd hwnnw Iorwerth fab Meredydd, ac nid oedd cystal gŵr a Madog. A Iorwerth a gymerth ofid mawr a thristwch wrth weled yr anrhydedd a'r meddiant oedd i'w frawd, ac yntau heb ddim. A galwodd ato ei gyfeillion a'i frodyr maeth, ac ymgynghorodd â hwy beth a wnai. Sef a gawsant yn eu cyngor,—anfon rhai o honynt i ofyn bywoliaeth iddo. Cynhygiodd Madog iddo y swydd o benteulu, a meirch, ac arfau, ac anrhydedd cystal a'r eiddo ei hun.
A gwrthod hynny wnaeth Iorwerth. A myned ar grwydr hyd yn Lloegr, a lladd celanedd, a llosgi tai, a dal carcharorion wnaeth Iorwerth. A chynghor a gymerodd Madog a gwŷr Powys gydag ef. Sef a gawsant yn eu cyngor,—gosod can wr ymhob un o dri chwmwd Powys i'w geisio. Hyn a wnacthant yn rhychdir Powys, yn Aber Ceiriog, ac yn Alligdwn Fer, ac yn Rhyd Wilure ar y