Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fyrnwy, y tri chwmwd goreu ym Mhowys. Fel nad da oedd iddo ef na'i deulu ym Mhowys, nac yn y rhandir hwnnw. Ac anfonasant y gwyr hynny hyd yn rhychdir Nillystwn Trefan.

A gŵr oedd yn y llu hwnnw a'i enw Rhonabwy. A daeth Rhonabwy a Chynwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynlleith, i dŷ Heilyn Goch fab Cadwgan fab Iddon. A phan ddaethant at y tŷ, gwelent hen neuadd burddu, dal, uniawn, a  mwg lawer yn dod o honi. A phan ddaethant i fewn gwelent lawr pyllog anwastad bryniog, a braidd y safai dyn arno lyfned y llawr gan fiswael gwartheg. Lle byddai bwll, clai dyn dros ei ffer i ddwfr a llaid y gwartheg. A gwrysg celyn oedd yn aml ar y llawr wedi bwyta o'r gwartheg eu brig. A phan ddaethant i gyntedd y ty, gwelent barthau llychlyd llwm. A gwrach yn ymdwymno ar y naill barth, a phan ddelai anwyd arni, bwriai o'i harffedog us am ben y tân, fel nad hawdd oedd i un dyn yn y byd ddioddef y mwg hwnnw yn myned i mewn i'w ddwy ffroen. Ar y parth arall gwelent groen dyniawed melyn ar lawr, ac anrhydedd oedd i neb gael mynd ar y croen hwnnw. Ac wedi iddynt eistedd, gofyn a wnaethant i'r wrach pa le yr oedd dynion y tŷ, ac ni ddywedai y wrach wrthynt ond tafodi. Ac ar hynny wele y dynion yn dyfod. Gŵr coch, gwarfoel, afrosgo, a baich o wrysg ar ei gefn, a gwraig feinlas fechan, a cheseliaid o frwyn ganddi hithau. Sych groesawu y dynion a wnaethant, a chynneu