Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tân gwrysg iddynt. A myned i bobi a wnaeth y wraig, a dwyn y bwyd iddynt, bara haidd a chaws, aglasdwr llefrith. Ac ar hynny

wele ruthr o wynt a gwlaw fel nad hawdd i neb fynd allan, A chan mor anesmwyth oedd eu taith, blino a wnaethant, a myned i gysgu. A phan edrychwyd y gwely, nid oedd arno ond byrwellt dystlyd, chweinllyd, a bonau gwrysg yn aml trwyddo, a'r gwartheg wedi bwyta y gwellt oedd uwch eu pennau ac is eu traed. Tacnwyd hulyn lwydgoch, galed, lom, dyllog ar y fainc, a llenllian fras, dyllog, rwygedig ar yr hulyn, a gobennydd lledwag a gorchudd go fudr iddo ar ben y llenllian. Ac i gysgu yr aethant, a chwsg a ddisgynnodd ar ddau gydymaith Rhonabwy yn drwm. A Rhonabwy, gan nas gallai na chysgu na gorffwys, a feddyliodd fod yn llai poen iddo fynd ar groen y dyniawed melyn ar y llawr i gysgu Ac yno y cysgodd. Ac mór fuan ac y daeth hûn i'w lygaid, breuddwydiodd ei fod ef a'i gydymdeithion yn cerdded ar draws maes Argyngroeg, ac oddi yno, debygai, tua Rhyd y Groes ar Hafren. Ac fel yr oedd yn cerdded, clywai dwrf, a thebyg y twrf hwnnw ni chlywsai erioed. Ac edrych a  chleddyf eurdrwm ar ei glun, a gwain o ledrwnaeth drach ei gefn, a gwelai ŵr ieuanc pengrych melyn, a'i farf newydd eillio, ar farch melyn, ond fod ei ddwy goes dan ei ddeulin yn las. A gwisg o bali melyn am y marchog wedi ei gwnio âg edafedd glas, a