Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newydd iddo, a charrai o ledr ewig a chlasp arni o aur. Ac ar hynny yr oedd len o bali melyn wedi ei wnio â sidan glas, a'i odreu hefyd yn las. A'r hyn oedd las o wisg y marchog a'i farch oedd cyn lased a dail y ffynidwydd, a'r hyn oedd felyn o honi oedd cyn felyned a blodau y banadl. A chan mor ofnadwy oedd golwg y marchog, ofni a wnaethant, a dechreu ffoi. A'u hymlid a wnaeth y marchog. A phan yrrai ei farch ei anadl oddi wrtho y pellhai y gwyr oddi wrtho, a phan y cymerai ei anadl neshai y gwyr ato,—hyd ym mron y march. A phan y goddiweddodd hwy, gofyn ei nawdd a wnaethant.

"Chwi a'i cewch yn llawen, ac nac ofnwch."

"Ha, unben, gan it roddi nawdd i ni, a ddywedi i mi pwy wyt," ebe Rhonabwy. "Ni chelaf oddi wrthyt fy hanes. Iddog fab Mynyo wyf, ac nid ar fy enw ym gelwir fwyaf, ond ar fy llysenw."

"A ddywedi di i mi beth yw dy lysenw." "Dywedaf. Iddog Cordd Prydain ym gelwir."

"Ha, unben," ebe Rhonabwy, "paham y gelwir di felly?"

 "Mi a ddywedaf it. Un oeddwn o'r cenhadau yng nghad Camlan rhwng Arthur a Medrawd ei nai. A gŵr ieuanc drwg oedd— wn i yno, ac mor hoff oeddwn o frwydr fel y perais derfysg rhyngddynt. Pan yrrid fi oddi wrth yr ymherawdwr Arthur i fynegi i Fedrawd ei fod yn dadmaeth ac yn ewyrth iddo, ac i ofyn tang-