nefedd rhag lladd meibion brenhinoedd Ynys Prydain, a phan ddywedai Arthur yr ymadrodd tecaf allai wrthyf, dywedwn innau yr ymadrodd hwnnw hagraf allwn wrth Fedrawd, ac am hynny y gelwid fi Iddog Cordd Prydain, ac am hyn yr ymladdwyd cad Camlan. A theirnos cyn gorffen cad Camlan y gadewais hwy, ac y daethum hyd yn Llech Las ym Mhrydain i ddwyn fy mhennyd. Ac yno y bum yn penydio saith mlynedd, a thrugaredd a gefais."
Ar hynny, wele, clywent dwrf oedd fwy o
lawer na'r twrf gynt. A phan edrychasant
tua'r twrf, wele was melyngoch heb farf ac
heb gernflew, o arddull bonheddig, ar farch
mawr, ac o ben y ddwy ysgwydd ac o'i
ddeulin i waered melyn oedd y march. A
gwisg oedd am y gŵr o bali coch wedi ei
gwnio â sidan melyn, a godreu y llen yn
felyn. A'r hyn oedd felyn o'i wisg ef ac o'i
farch cyn felyned oedd a blodau y banadl;
a'r hyn oedd goch o honynt oedd
cyn goched a'r gwaed cochaf yn
y byd. Ac yna, wele, y marchog
yn eu goddiweddu, ac yn gofyn
i Iddog a gafai ran o'r dynion
bychain hynny ganddo.
"Y rhan a weddai i mi ei roddi, mi a'i rhoddaf; bydd yn gydymaith iddynt fel y bum innau."
A hynny a wnaeth y marchog, a myned ymaith.
'Iddog,' "ebe Rhonabwy, "pwy oedd y marchog hwn?"
"Rhuawn Bebyr, fab Deorthach Wledig." Ac yna y cerddasant ar draws maes mawr Argyngroeg hyd yn Rhyd y Groes ar Hafren.