Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A milltir oddi wrth y Rhyd, o bob tu i'r ffordd, y gwelent luestai a phebyll, ac yr oedd yno dwrf llu mawr.

Ac i lan y Rhyd y dacthant. Sef

a welent, Arthur yn eistedd mewn ynys wastad is y Rhyd, ac ar y naill du iddo Bedwin Esgob, ac ar y tu arall Gwarthegydd fab Caw, a gwas gwineu mawr yn sefyll ger eu bron, a'i gleddau trwy ei wain yn ei law, a gwisg a chapan o bali purddu am dano. A'i wyneb cyn wynned ag asgwrn eliffant, a chan ddued ei aelau a'r muchudd, a'r hyn welai dyn o'i arddwrn rhwng ei fenyg a'i lewis gwynnach oedd na'r lili, a mwy oedd na ffer milwr. Ac yna y daeth Iddog, a hwythau gydag ef, ger bron Arthur, a chyfarch gwell iddo.

"Duw a roddo dda it," ebe Arthur. "Pa le, Iddog, y cefaist di y dynion bychain hyn?"

 "Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd."

Sef a wnaeth yr ymherawdwr oedd lledwenu.

"Arglwydd," ebe Iddog, "am beth y chwerddi di?"

"Iddog," ebe Arthur, "nid chwerthin a wnaf, ond gofidio fod dynion mor wael a hyn yn gwylio yr ynys hon yn lle y gwyr da a'i gwyliai gynt."

Ac yna y dywedodd Iddog,—

"Rhonabwy, a weli di y fodrwy a'r maen arni ar law yr Ymherawdwr."

"Gwelaf," ebe ef.

"Un o rinweddau y maen yw y cofi a welaist heno, a phan na welet y maen ni chofiet ddim o hono."