Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac wedi hynny y gwelai fyddin yn dyfod tua'r Rhyd.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy biau y fyddin acw?"

"Cydymdeithion Rhuawn Pebyr, fab Deorthach Wledig, ydynt. A'r gwyr acw a gant fwyd a diod yn  anrhydeddus, a chant gyfeillachu â merched brenhinoedd ynys Prydain yn ddiwarafun. A haeddant hyn, canys ymhob perygl byddant yn ei flaen ac yn ei ol."

Ac ni welai liw amgen ar farch nac ar ŵr o'r fyddin honno, ond eu bod cyn goched a'r gwaed. Ac os gwahanai un o'r marchogion oddi wrth y fyddin honno, tebyg fyddai i golofn dân yn cychwyn i'r awyr. Pabellodd y fyddín honno uwch y Rhyd. Ac ar hynny gwelent fyddin arall yn dyfod tua'r Rhyd. Ac o fronnau y meirch i fyny oedd cyn wynned a'r lili, ac o hynny i waered cyn ddued a'r muchudd. A gwelent farchog yn eu rhagflaenu, ac yn spardyn ei farch i'r Rhyd nes y lluchiodd y dwfr am ben Arthur a'r esgob, a'r rhai oedd yn y cyngor gyda hwy, nes oeddynt cyn wlyped a phe tynnid hwy o'r afon. Ac fel yr oedd yn trosi pen ei farch, tarawodd y gwas oedd yn sefyll gerbron Arthur y march ar ei ddwyfron â'r cleddyf yn ei wain; a phe y tarawai â'r dur noeth, ni fai ryfedd pe torasid yr asgwrn yn ogystal a'r cig. A thynnu ei gleddyf hyd hanner y wain a wnaeth y marchog, a gofyn iddo,—

"Paham y tarewaist di fy march i? ai er amarch i mi, ynte er cyngor?"

"Rhaid oedd i ti wrth gyngor. Pa yn-