Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy fyddin hardd yn dyfod tua'r Rhyd ar  yr Hafren. A byddin eglurwen yn dyfod, a llen o bali gwyn am bob un o honynt, a godreu bob un yn bur ddu. A phen deulin, a phennau dwy goes y meirch yn burddu, a'r meirch yn wynion oll ond hynny. A'u banerau yn burwyn, a blaen pob un o honynt yn burddu.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burwen acw?"

"Gwyr Llychlyn ydynt, a March fab Meirchion yn dywysog arnynt. Cefnder i Arthur yw hwnnw."

Ac yna y gwelai fyddin a gwisg burddu am bob un o honynt, a godreu pob llen yn burwyn. Ac o ben eu dwygoes a phen eu deulin i'r meirch yn burwyn, a'u banerau yn burddu, a blaen pob un o honynt yn burwyn.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy yw y fyddin burddu acw?"

 "Gwyr Denmarc, ac Edeyrn fab Nudd yn dywysog arnynt."

A phan oddiweddasant y llu, wele, disgynasai Arthur a'i lu y cedyrn islaw Caer Fadon; ac wedi disgyn, clywai dwrf mawr a therfysg yn y llu,—a'r gŵr a fai ar ymyl y llu yn awr a elai i'r canol, a'r gŵr fai yn y canol a ddeuai i'r ymyl. Ac ar hynny, wele farchog yn dyfod a gwisg o ddur am dano ef ac am ei farch. Cyn wynned oedd y modrwyau a'r lili wennaf, a chyn goched oedd yr hoelion a'r gwaed cochaf. A hwnnw yn marchogaeth ymhlith y llu.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "ai ffoi wna y llu rhagddo?"