Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ni ffodd yr Ymherawdwr Arthur erioed, a phe clywid di yn siarad felly, gŵr trist fyddet. Ond y marchog a weli acw, Cai yw hwnnw. Tecaf dyn a farchoga yn llys  Arthur yw Cai. A'r gwr ar ymyl y llu sydd yn brysio yn ol i edrych ar Cai yn marchogaeth, a'r gŵr yn y canol sydd yn ffoi i'r ymyl rhag ei frifo gan y march. A hynny yw ystyr y cynnwrf yn y llu."

Ar hynny clywent alw ar Gadwr, Iarll Cernyw. Wele yntau yn dyfod a chleddyf Arthur yn ei law. A llun dwy sarff ar y cleddyf o aur, a phan dynnid y cleddyf o'i wain, fel dwy fllam o dân a welid o eneuau y seirff, ac mor ddychrynllyd oedd fel nid hawdd fai i neb edrych arno. Ar hynny wele y llu yn arafu, a'r cynnwrf yn peidio. Ac aeth yr iarll i'w babell.

"Iddog," ebe Rhonabwy, "pwy oedd y gŵr ddygai gleddyf Arthur?"

"Cadwr, Iarll Cernyw, y gŵr raid wisgo ei arfau am y brenin yn nydd cad ac ymladd."

Ac ar hynny clywent alw ar Eirynwych Amheibyn, gwas Arthur. Gŵr garwgoch anhygar, a barf goch o flew sythion iddo. Wele yntau yn dyfod ar farch coch mawr, a'i fwng wedi ei rannu o bob tu i'w wddf, a  swmer mawr tlws ganddo. A disgyn a wnaeth y gwas coch mawr ger bron Arthur, a thynnu cadair aur o'r swmer a llen o bali caerog. A thaenu y llen a wnaeth ger bron Arthur, ac afal rhuddaur oedd wrth bob congl iddi, a gosododd y