gadair ar y llen. A chymaint oedd y gadair ag y gallai tri milwr arfog eistedd ynddi. Gwen oedd enw y llen. Ac un o rinweddau y llen oedd,—na welai neb y dyn eisteddai arni, ond efe a welai bawb, ac ni arhosai arni byth liw ond ei lliw ei hun. Ac eistedd a wnaeth Arthur ar y llen, ac Owen fab Urien yn sefyll ger ei fron.
"Owen," ebe Arthur, "a chwareui di wyddbwyll?"
"Chwareuaf, arglwydd," ebe Owen. Daeth y gwas coch â'r wyddbwyll i Arthur ac Owen,—gwerin aur a chlawr arian. A dechreu chware a wnaethant. A phan yr oeddynt felly yn ddifyrraf ganddynt eu chwareu uwch y gwyddbwyll, wele, gwelent babell wen, bengoch, a delw sarff burddu ar ben y babell, a llygaid rhuddgoch gwenwynig ymhen y sarff, a'i thafod yn fflam goch. A gwelent lanc ieuanc pengrych melyn, llygadlas, a'i farf yn dechreu tyfu, yn dyfod at lle yr oedd Arthur ac Owen yn chwareu gwyddbwyll. A gwisg a swrcot o bali melyn am dano, a dwy hosan o frethyn gwyrddfelyn teneu am ei draed, ac ar yr hosanau ddwy esgid o ledr brith, a byclau o aur yn eu cau. A chleddyf eurdrwm, trwm, tri miniog, a gwain o ledr du iddo, a swch o ruddaur coeth ar ben y wain. A chyfarch gwell a wnaeth y llanc i Owen. A rhyfeddu a wnaeth Owen am i'r llanc gyfarch gwell iddo ef, ac na chyfarchodd yr Ymherawdwr Arthur. A gwybod wnaeth Arthur am beth y meddyliai Owen.
"Na fydd ryfedd gennyt i'r llanc gyfarch gwelli ti yr awr hon. Efe a gyfarchodd well i minnau gynneu. Ac atat ti y mae ei neges"