Ac yna y dywedodd y llanc wrth Owen,— Arglwydd, ai wrth dy gennad di y mae gweision bychain yr ymherawdwr a'i lanciau yn aflonyddu, a dychrynnu, a blino dy frain?" Os nad wrth dy gennad, par i'r ymherawdwr eu gwahardd."
"Arglwydd," ebe Owen, "ti a glywi a ddywed y llanc. Os da gennyt, gwahardd hwynt oddiwrth fy mrain."
"Chware dy chware," ebe ef.
Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.
Terfynu y chware hwnnw a wnaethant, a dechreu un arall; a phan oeddynt yn hanner y chware, dyna was ieuanc coch, pengrych, gwineu, llygadog, lluniaidd, wedi eillio ei farf, yn dyfod o babell burfelen a delw llew purgoch ar ben y babell. A gwisg o bali melyn am dano gyrhaeddai at ei esgeiriau, wedi ei gwnio âg edafedd o sidan coch, a dwy hosan am ei draed o fwcran gwyn teneu, ac ar yr hosanau yr oedd dwy esgid o ledr du am ei draed, a byclau aur arnynt; a chleddyf mawr, du, trwm, triminiog yn ei law, a gwain o groen carw coch iddo, a swch aur ar y wain. A daeth tua'r lle yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. Cyfarchodd well i Owen. A drwg oedd gan Owen iddo gyfarch gwell iddo, ond nid oedd Arthur yn malio dim mwy na chynt. Y llanc a ddywedodd wrth Owen,———
"Ai o'th anfodd di y mae llanciau yr ymherawdwr yn niweidio dy frain, ac yn lladd eraill, ac yn blino eraill? Os o'th anfodd y gwnant, atolwg arno eu gwahardd."