Arglwydd, gwahardd dy wyr, os da gennyt."
"Chware dy chware," ebe'r ymherawdwr.
Ac yna y dychwelodd y llanc tua'i babell.
Y chware hwnnw a derfynwyd, a dechreu-
wyd un arall. Ac fel yr oeddynt yn dechreu
y symud cyntaf ar y chware, gwelent
ychydig oddi wrthynt babell frech-felen, y
fwyaf a welodd neb erioed. A delw o eryr
aur arni, a maen gwerthfawr ymhen yr.eryr.
Ac yn dyfod o'r babell gwelent lanc a gwallt
pybyr-felyn ar ei ben. Teg a lluniaidd
oedd o gorff. A len o bali glas oedd am
dano, a gwaell aur cymaint a bys mwyaf
milwr yn y llen ar ei ysgwydd ddeheu, a
dwy hosan am ei draed o ddefnydd teneu, a
dwy esgid o ledr brith a byclau aur arnynt.
Yr oedd y gwas yn fonheddigaidd ei bryd,
gwyneb gwyn gruddgoch iddo, a llygaid
mawr fel llygaid hebog. Ac yn llaw y llanc
yr oedd gwaewffon braff fraith-felen, a'i
blaen newydd ei hogi, ac ar y waewffon yr
oedd baner amlwg. Daeth y llanc yn llidiog
angerddol, gan gerdded yn gyflym at y lle
yr oedd Arthur ac Owen yn chware gwyddbwyll. A deallasant ei fod yn llidiog. A
chyfarch gwell wnaeth i Owen, a dywedyd
wrtho fod ei frain, y rhai mwyaf
arbennig o honynt, wedi eu lladd,
ac fod y rhai na laddwyd o honynt wedi eu niweidio a'u brifo
gymaint fel na ddichon yr un o
honynt ehedeg ddwylath oddi
wrth y ddaear.
"Arglwydd," ebe Owen, "gwahardd dy ŵyr."
"Chware, os mynni," ebe Arthur.