Yna y dywedodd Owen wrth y llanc,—
"Dos rhagot i'r lle y gwelych y frwydr galetaf. Cyfod y faner i fyny; ac a fynno Duw, bydded."
Ac yna y cerddodd y llanc rhagddo hyd y lle yr oedd y frwydr galetaf ar y brain, a dyrchafodd y faner. Ac fel y dyrchafid y faner cyfodai y brain i'r awyr yn llidiog angerddol, ac yn falch o gael gwynt dan eu hadenydd, ac o fwrw eu lludded oddi arnynt. Ac wedi adennill eu nerth a chael buddugoliaeth, disgynasant gyda'u gilydd yn llidiog a llawn yni i'r llawr ar ben y gwyr wnaethai lid a gofid a cholled iddynt cyn hynny. Pennau rhai a ddygent, llygaid eraill, a chlustiau eraill, a breichiau eraill, gan eu cario i'r awyr. A chynnwrf mawr fu yn yr awyr gan drwst esgyll a chlegar y brain llawen; a chynnwrf mawr arall gan ruddfannau y gwyr yn cael eu brathu a'u hanafu, ac eraill yn cael eu lladd.
A rhyfedd fu gan Arthur a chan Owen uwch ben y gwyddbwyll glywed y cynnwrf. A phan edrychasant, gwelent farchog ar farch erchlas yn dyfod atynt. Lliw rhyfedd oedd ar y march,——ei gorff yn erchlas, ei ysgwydd ddeheu yn burgoch, ac o bennau ei goesau i ewinedd ei garn yn burfelyn. Yr oedd y marchog a'i farch yn gywair o arfau trymion, estronol. Hulyn y march o'r agorfa flaen i fyny yn sidan purgoch, ac o'r agorfa i waered yn sidan purfelyn. Cleddyf eurddurn mawr, un min, oedd ar glun y gwas, a gwain newydd bur-las iddo, a swch ar y wain o bres yr Hispaen.