Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwregys y cleddyf oedd o ledr glas—ddu, ac ochrau goreuraidd iddo, a gwaell o asgwrn eliffant arno, a chlasp purddu ar y waell. Helm euraidd oedd ar ben y marchog, a meini mawr, gwerthfawr a gwyrthiol, ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llewpard melynrudd, a dwy faen ruddgochion yn y pen, fel mai dychrynllyd oedd i filwr, er caderned fai ei galon, edrych yng ngwyneb y llewpard, chwaithach yng ngwyneb y marchog. Picell goeslas, hirdrwm, oedd yn ei law, ac o'i dwrn i fyny yn rhuddgoch gan waed y brain a'u plyf.

Dyfod a wnaeth y marchog tuag at lle yr oedd Arthur ac Owen uwch ben y gwyddbwyll, a deall wnaethant ei fod yn lluddedig, llidiog, a blin yn dyfod atynt. Cyfarch gwell a wnaeth y gwas i Arthur, a dywedyd fod brain Owen yn lladd ei weision bychain a'i lanciau. Ac edrych a wnaeth Arthur ar Owen, a dywedyd,—

"Gwahardd dy frain."

"Arglwydd," ebc Owen, "chware dy chware."

A chware a wnaethant, a dychwelyd a wnaeth y gwas drachefn tua'r frwydr. Ac ni waharddwyd y brain mwy na chynt.

A phan yr oeddynt wedi chware dalm o amser, clywent gynnwrf mawr, wylofain gwŷr, a chlegar brain yn dwyn y gwyr yn eu nerth i'r awyr, ac yn eu hysglyfaethu rhyngddynt, ac yn eu gollwng yn ddrylliau i'r llawr. Ac oddi wrth y cynnwrf gwelent farchog yn dyfod ar farch canwelw, a choes flaen aswy y march yn burddu hyd ganol y carn.

Yr oedd y marchog a'i farchi yn gywair o arfau trymion a gleision. Hulyn