Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o bali caerog melyn oedd am dano, a godreuon yr hulyn yn las. Hulyn ei farch yn burddu, a'i odreuon yn burfelyn. Ar glun y gwas yr oedd cleddyf hirdrwm, tri miniog, a'i waen o ledr coch disglaer, a gwregys newydd o groen carw coch ag ymylon aur aml iddo, a gwaell o asgwrn morfil iddo, a chlasp purddu arno. Helm euraidd oedd am ben y marchog, a meini saffir rhinweddol ynddi. Ac ar ben yr helm yr oedd delw llew melyngoch, a'i dafod droedfeddi allan o'i ben, a llygaid rhuddgochion gwenwynig yn ei ben. Daeth y gwas a gwaew onnen fawr yn ei law, a gwaed newydd ei roddi ar ei phen, orchuddid âg arian, a chyfarch gwell a wnaeth i'r ymherawdwr.

 "Arglwydd," ebe ef, "a'i di-daro gennyt ladd dy weision a llanciau bychain, a meibion gwyr da Ynys Prydain, fel na bydd hawdd cynnal yr ynys hon byth o heddyw allan ?"

"Owen," ebe Arthur, "gwahardd dy

"Chware, arglwydd," ebe Owen, "y chware hwn."

Darfod wnaeth y chware hwnnw, a dechreu un arall a wnaethant. A phan oeddynt ar ddiwedd y chware hwnnw, wele, clywsent gynnwrf mawr,—dolefain gwŷr arfog a chlegar brain a swn eu hadenydd yn yr awyr. A gollyngai'r brain yr arfau yn gyfain i'r llawr, yna y gwyr a'r meirch yn ddrylliau. Ac yna gwelent farchog ar farch o liw du a gwyn. Yr oedd pen y goes aswy i'r march yn burgoch, a'i goes ddeheu o'i fynwes hyd y carn yn burwyn. Yr oedd y