Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marchog a'i farch yn arfog o arfau brithfelynion wedi eu britho â phres yr Hispaen. A hulyn am dano ef ac am ei farch dau hanner gwyn a phurddu, a godreuon yr hulyn oedd o borffor euraidd. Ac ar yr hulyn yr oedd cleddyf eurddwrn gloew, tri miniog. Gwregys y cleddyf oedd o eurlliw melyn, a gwaell arno o amrant mor-farch purddu, a chlasp o aur melyn ar y waell. Helm loew oedd am ben y marchog o bres melyn, a meini grisial gloew ynddi, ac ar ben yr helm yr oedd llun aderyn y grifft, a maen rhinweddol yn ei ben. Picell onnen goesgron oedd yn ei law, wedi ei lliwio âg asur glas, a gwaed newydd ei roddi ar ei choes orchuddid a gwaith arian cywrain. Dyfod a wnaeth y marchog yn llidiog hyd y lle yr oedd Arthur, a dywedyd darfod i'r brain ladd ei deulu a meibion gwŷr da yr ynys hon, gan erchi iddo beri i Owen wahardd ei frain. Yna yr archodd Arthur i Owen wahardd ei frain.

Ac yna y gwasgodd Arthur y werin aur oedd ar y clawr nes oeddynt oll yn llwch. Ac archodd Owen Wres fab Rheged ostwng ei faner. Ac yna y gostyngwyd hi, a thangnefeddwyd pob peth. Yna y gofynnodd Rhonabwy i Iddog pwy oedd y tri gŵr cyntaf ddaeth at Owen i ddywedyd wrtho eu bod yn lladd ei frain.

Ac yna y dywedodd Iddog,—

"Gwyr oedd ddrwg ganddynt ddyfod colled i Owen, ei gydbenaethiaid a'i gyfeillion, Selyf fab Cynan Garwyn o Bowys, a Gwgawn Gleddyfrudd, a Gwres fab Rheged, y gŵr garia'r faner yn nydd cad ac ymladd."