Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Pwy," ebe Rhonabwy, "oedd y tri gŵr diweddaf ddaeth at Arthur i ddweyd iddo fod y brain yn lladd ei wŷr?"

"Y gwyr goreu," ebe Iddog, "a dewraf, a garwaf ganddynt golledu Arthur o ddim, Blathaon fab Mwrheth, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach Wledig, a Hyfeidd Unllen."

Ac ar hynny, wele bedwar marchog ar hugain yn dyfod oddi wrth Ossa Gyllellfawr, i ofyn heddwch i Arthur am bythefnos a mis. A'r hyn a wnaeth Arthur oedd  cyfodi a myned i gymeryd cyngor, a ddaeth tua'r lle yr oedd gŵr pengrych gwineu mawr ychydig oddi wrtho. Ac yno dygwyd ei gynghorwyr ato,— Bedwin Esgob, a Gwarthegyd fab Caw, March fab Meirchawn, a Charadog Freichfras, a Gwalchmai fab Gwyar, ac Edyrn fab Nudd, a Rhuawn Pebyr fab Deorthach Wledig, a Rhiogan fab brenin Iwerddon, a Gwen Wynwyn fab Naf, Howel fab Emyr Llydaw, Gwilym fab Rhwyf Ffrainc, a Daned fab Oth, a Goreu Custennin, a Mabon fab Modron, a Pheredur Baladyr Hir, a Hyfeidd Unllen, a Thwrch fab Perif, a Nerth fab Cadarn, a Gobrwy fab Ethel Forddwyd Twll, a Gweir fab Gwestel, ac Adwy fab Gwereint, a Thrystan fab Tallwch, Morien Manawg, Granwen fab Llyr, a Llachen fab Arthur, a Llawfrodedd Farfog, a Chadwr Iarll Cernyw, Morfran fab Tegid, a Rhyawd fab Morgant, a Dyfyr fab Alun Dyfed, Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd, Adaon fab Taliesin, Llary fab Casnar Wledig, a Filewddur Fllam, a Greiddawl Galldofydd, Gilbert fab Cadgyffro, Menw fab Teir-