Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn ni fynno, bydded yn erbyn Arthur hyd ddiwedd yr heddwch."

 A chan faint y cynnwrf hwnnw a wnaeth Rhonabwy. A phan ddeffrodd yr oedd ar groen y dyniawed melyn, wedi cysgu o hono dair nos a thri dydd.

A'r ystori hon a elwir "Breuddwyd Rhonabwy." A llyma y rheswm na wyr neb ei freuddwyd, na bardd na dewin, heb lyfr, o achos cynifer lliw a oedd ar y meirch, a hynny o amryw liw odidog ar yr arfau, ac ar y gwisgoedd, ac ar y llenni gwerthfawr a'r meini rhinweddol.