Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLUDD A LLEFELYS

——————

I'R Beli Mawr fab Manogan y bu tri mab, —Lludd a Chaswallon, a Nynyaw; ac yn ol traddodiad, pedwerydd mab oedd iddo, un Llefelys. Ac wedi marw Beli, a syrthio teyrnas Ynys Prydain i law Lludd, ei fab, yr hynaf, a llywio ei golud  hi yn llwyddiannus, adnewyddodd Lludd furiau Llundain, ac a'i hamgylchodd â thyrau dirifedi. Ac wedi hynny, gorchymynnodd i'r dinaswyr adeiladu tai ynddi, fel na bai yn y teyrnasoedd dai cyfurdd ag a fai ynddi hi. Ac ynghyd â hynny, ymladdwr da oedd, a hael a helaeth y rhoddai fwyd a diod i'r neb a'u ceisiai. Ac er fod llawer o gaerau a dinasoedd iddo, hon a garai yn fwy na'r un; ac yn honno y preswyliai y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Ac wrth hynny y gelwid hi Caerludd, ac o'r diwedd Caer Llundain. Ac wedi dyfod estron genedl iddi y gelwid hi Llundain, neu ynte Lwndrys.

Mwyaf ef frodyr y carai Lludd Lefelys, canys gŵr call a doeth oedd. Ac wedi clywed marw brenin Ffrainc heb adael etifedd iddo ond un ferch, a gadael ei gyfoeth yn llaw honno, daeth at Ludd ei frawd i ofyn cyngor a chymorth ganddo,—