Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac nid yn fwyaf er lles iddo ef ei hun, ond er ceisio ychwanegu anrhydedd, ac urddas, a theilyngdod i'w genedl,—a allai fyned i deyrnas Ffrainc i ofyn y ferch honno yn wraig iddo. Ac yn y lle, ei frawd a gydsyniodd âg ef, a bu da ganddo ei gyngor ar hynny.

Ac yn y lle paratoi llongau a'u llanw o farchogion arfog, a chychwyn parth â Ffrainc a wnaethant. Ac wedi disgyn o'r llongau, anfon cenhadau a wnaethant i fynegi i wyr da Ffrainc ystyr y neges y daeth i'w cheisio. Ac o gyd—gyngor, rhoddodd gwŷr da Ffrainc a'i thywysogion y ferch i Lefelys, a choron y deyrnas gyda hi. Ac wedi hynny llywiodd Llefelys ei gyfoeth yn gall a doeth, ac yn ddedwydd hyd tra parhaodd ei oes.

Ac wedi llithro talm o amser, tair gormes a ddigwyddodd yn Ynys Prydain na welodd neb o'r ynysoedd gynt  eu cyfryw. Cyntaf o honynt oedd rhyw genedl a ddaeth a elwid y Coraniaid, a chymaint oedd eu gwybod fel nad oedd ymadrodd dros wyneb yr ynys—er ised y dywedid ef— os cyffyrddai'r gwynt âg ef, nas gwyddent. Ac wrth hynny ni ellid gwneyd drwg iddynt.

Yr ail ormes oedd,—gwaedd a ddodid bob nos Calan Mai uwch pob aelwyd yn Ynys Prydain. A honno a ai trwy galonnau y dynion, ac a'u dychrynnai yn gymaint fel y collai y gwŷr eu lliw a'u nerth. A'r meibion a'r merched a gollent eu synhwyrau. A'r holl anifeiliaid, a'r coed, a'r ddaear, a'r dyfroedd a wneid yn ddiffrwyth. Trydydd ormes oedd,—pa faint bynnag o