Tudalen:Mabinogion - (o Lyfr coch Hergest) (IA mabinogionolyfrc00edwa).pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wledd ac arlwy a baratoid yn llysoedd y brenin, er fod yno arlwy blwyddyn o fwyd a diod, ni cheid byth ddim o hono ond a dreulid yr un nos gyntaf.

Gwyddid ystyr yr ormes gyntaf, ond nid oedd neb a wyddai pa ystyr oedd i'r ddwy ormes eraill. Ac wrth hynny, mwy gobaith oedd cael gwared o'r gyntaf nag oedd o'r ail neu o'r drydedd.

Oherwydd hynny, Lludd frenin a gymerth bryder mawr a gofal am na  Fel y wyddai pa ffordd y caffai ymgofynnodd wared rhag y gormesoedd hynny. A galw ato a wnaeth holl wyr da ei gyfoeth, a gofyn cyngor iddynt pa beth a wnelent yn erbyn y gormesoedd hynny. Ac yn ol cyngor ei wyr da aeth Lludd fab Beli at Lefelys ei frawd, frenin Ffrainc, i geisio cyngor ganddo. Canys gŵr mawr ei gyngor a doeth oedd hwnnw.

Ac yna paratoi llynges a wnaethant, a hynny yn ddirgel ac yn ddistaw, rhag gwybod o'r genedl honno ystyr y neges, na neb arall oddi eithr y brenin a'i gynghorwyr. Ac wedi i'r llongau fod yn barod hwy a aethant ynddynt,—Lludd a'i gyfeillion gydag ef. A dechreu rhwygo y moroedd parth â Ffrainc a wnaethant.

A phan ddaeth y chwedlau hynny at Lefelys, canys ni wyddai achos llynges ei frawd, daeth yntau o'r parth arall yn ei erbyn ef â llynges ganddo, ddirfawr ei maint. Ac wedi gweled o Ludd hynny, efe a adawodd ei holl longau allan ar y weilgi, oddi eithr un long; ac yn yr un honno yr aeth i gyfarfod ei frawd. Ac wedi eu dyfod at eu